SL(5)324 – Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cefndir a Phwrpas

Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y "Ddeddf").

Mae'r cod hwn, a'r rheoliadau y mae'n cyfeirio atynt, yn nodi'r gofynion ar awdurdodau lleol mewn perthynas â'r canlynol:

-      pennu cyfraniad neu ad-daliad mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol o dan adrannau 50-53 o'r Ddeddf (Taliadau uniongyrchol);

-      y dewis o lety i'r rhai mewn cartref gofal, gan gynnwys talu costau ychwanegol o dan amgylchiadau penodol, o dan adran 57 o'r Ddeddf (Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol);

-      codi ffioedd ac asesiadau ariannol o dan adran 59 o'r Ddeddf (Pŵer i osod ffioedd) ar y rhai sy'n cael gofal a chymorth, neu gymorth yn achos gofalwyr;

-      gohirio taliadau gan y rhai mewn cartref gofal o dan adran 68 o'r Ddeddf (Cytundebau ar daliadau gohiriedig);

-      codi ffi o dan adran 69 o'r Ddeddf (Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy) am ddarparu neu drefnu gwasanaethau ataliol a chynhorthwy;

-      adennill dyledion o dan adran 70 o'r Ddeddf (Adennill costau, llog etc) a throsglwyddo asedau i osgoi ffioedd o dan adran 72 o'r Ddeddf (Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd);

-      adolygiadau o dan adran 73 (Adolygiadau sy'n ymwneud â chodi ffioedd) sy'n ymwneud â dyfarniadau ynghylch codi ffi a wneir o dan y Ddeddf neu ffioedd a godir o dan y Ddeddf.

Mae'r cod hwn yn cwmpasu'r canlynol:

-      llunio polisi ynghylch codi ffioedd;

-      materion cyffredin mewn perthynas â chodi ffioedd;

-      codi ffi am ofal a chymorth mewn cartref gofal;

-      dewis o lety wrth drefnu gofal mewn cartref gofal;

-      gwneud taliadau am gostau ychwanegol ar gyfer y llety sy'n cael ei ffafrio;

-      codi ffi am ofal a chymorth yn y gymuned;

-      codi ffi am gymorth i ofalwyr.

Gweithdrefn

Rhaid gosod drafft o’r cod gerbron y Cynulliad. Os, o fewn 40 diwrnod (heb gynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) o osod y drafft, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod.

Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

Craffu o dan Rheol Sefydlog 21.7

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

15 Chwefror 2019